Video není dostupné.
Omlouváme se.

Molly Fenton: Ymgyrch Love Your Period, Enillydd, Gwobrau Gwaith Ieuenctid 2023

Sdílet
Vložit
  • čas přidán 8. 04. 2024
  • Enillydd, categori 'Gwaith gwirfoddol eithriadol mewn lleoliad gwaith ieuenctid' Gwobrau Gwaith Ieuenctid 2023
    Dwy ar hugain oed yw Molly Fenton o Gaerdydd, ac mae’n ei galw’i hun yn “chwaer fawr Cymru”. A hithau heb gael llawer o arweiniad wrth dyfu, mae Molly wedi defnyddio’i hangerdd i rymuso merched ledled y wlad drwy ei mudiad ‘Love Your Period’, sydd wedi cyrraedd pobl yn rhyngwladol.
    Mae ‘Love Your Period’ yn lloches i ferched, lle byddan nhw’n gallu cael addysg, adnoddau, ac yn bwysicach na dim, gofod i gael eu clywed a’u deall. Gan sylweddoli bod angen sgyrsiau agored am iechyd menywod ifanc, mae hi’n rhannu ei siwrnai ei hun ar ei blog, ar ôl cael tiwmor anfalaen ar yr ymennydd, ond un nad oedd modd iddi gael llawdriniaeth arno. Mae Molly’n chwarae rhan y chwaer fawr sy’n absennol ym mywydau rhai merched, efallai, gan gychwyn sgyrsiau am y mislif, rhywioldeb, a phynciau iechyd sy’n aml yn llawn stigma.

Komentáře •