PÊL-DROED BYW: Caernarfon v Crusaders | Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa

Sdílet
Vložit
  • čas přidán 10. 07. 2024
  • PÊL-DROED BYW
    Caernarfon v Crusaders (Gogledd Iwerddon) | Nos Iau, 11 Gorffennaf - 18:30 (Yn fyw ar S4C)
    (Nantporth, Bangor - Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2024/25)
    Mae Caernarfon wedi cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl gorffen yn bumed yn nhymor 2023/24 a mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle.
    Bydd hi’n noson hanesyddol i’r Cofis sydd wedi bod mor agos at Ewrop yn y gorffennol, yn colli o 5-3 yn erbyn Y Drenewydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2020/21, cyn ennill y gemau ail gyfle yn 2021/22 ond yn methu a hawlio lle’n Ewrop ar ôl i Gymru golli un safle’n Ewrop.
    Roedd yr ymateb yn gymysg pan gyhoeddodd y clwb y byddai nhw’n chwarae eu gêm Ewropeaidd yn Nantporth, sef cartref presennol Bangor 1876, ond gyda’r tocynnau cyfan wedi eu gwerthu’n gyflym mae’n ymddangos fod y penderfyniad wedi ei gyfiawnhau.
    Bydd hi’n anodd i reolwr Caernarfon, Richard Davies geisio llenwi esgidiau Sion Bradley, enillodd wobr ‘Chwaraewr y Tymor Cymru Premier JD 2023/24’ cyn gadael i ymuno â’r Seintiau Newydd, ond mae Davies wedi llwyddo i ddenu sawl enw profiadol i’r garfan, yn cynnwys Matty Jones a Ryan Sears o’r Drenewydd, a Paulo Mendes o’r Bala.
    O ran y gwrthwynebwyr, mae gan Crusaders ddigonedd o brofiad Ewropeaidd ar ôl chwarae 54 o gemau’n Ewrop ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1967, gan ennill naw o rheiny (ennill 17%).
    Mae’r clwb o Belfast wedi wynebu enwau mawr ar hyd a lled Ewrop, yn cynnwys Valencia, Lerpwl, Fulham, Wolves a Chasnewydd!
    Mae’r Crues wedi cael ychydig o lwyddiant yn Ewrop yn ddiweddar, gan ennill eu rownd ragbrofol gyntaf yng Nghyngres Europa yn y ddau dymor diwethaf, yn curo Bruno’s Magpies (Gibraltar) a Haka (Y Ffindir).
    Gorffennodd Crusaders yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon 2023/24, ac fel Caernarfon bu rhaid i’r clwb ennill y gemau ail gyfle i hawlio eu lle’n Ewrop.
    Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Seaview, Belfast ar nos Fercher, 17 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Legia Warszawa (Gwlad Pwyl) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
  • Sport

Komentáře • 2