Dansin Bêr - Gwyneth Glyn (geiriau / lyrics)
Vložit
- čas přidán 7. 11. 2012
- Can/Song: Dansin Bêr (Dancing Bear)
Canwr/Singer: Gwyneth Glyn
Album: Cainc (Branch)
Prynwch/Buy 'Cainc'
www.sadwrn.com/cd.asp?id=791 (they ship internationally)
Welsh Music Blog / Blog Cerddoriaeth Cymraeg:
/ welshmusic-cerddoriaet...
Twitter:
#!/Welsh_Music
Geiriau:
Os ewch chi'n nôl amser maith
ond ddim mor hir a hynny chwaith,
ma 'na un neu ddau ar ôl yn dre
yn dal i gofio hanas y Dansin Bêr.
Roedd Jo Giovani yn Eidalwr mwyn
a du ei dash o dan ei drwyn;
mi deithiai hwn o le i le
yn diddanu'r dorf hefo'i Ddansin Bêr.
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
dyna i chi le oedd hefo'r Dansin Bêr.
Doi pawb a'i nain o bedwar ban
i weld y gŵr a'i garafan;
ei hyrdi-gyrdi i'w glywed o'r Plu,
ond seren y sioe oedd yr arth fawr ddu.
Mi neidiai'r arth drwy gylchoedd pren
a bwrw'i thîn yn ddel dros ei phen.
Yn nhraed ei sanau, ar ei choesa ôl
roedd hi'n dalach a chryfach na wal Sea Wall.
Nid arth gyffredin mohoni'n saff,
a chry ei rhy ar ben ei rhaff,
ei dannedd mor finiog a llafn y lli
a mellt y fall yn ei llygaid hi.
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
dyna i chi le oedd hefo'r Dansin Bêr.
John Jôs oedd taid 'yn Nhaid,
yn codi walia yn y baw a'r llaid.
A Robat Jôs oedd ei bartnar a'i ffrind;
i blas Talarfor oedd y ddau yn mynd
un bora oer o hydref hwyr
a'r niwl o'r môr yn hel fel cwyr,
cyn codi cŵn a chathod Criciath -
galw'n Siop Mathaw am faco a chyflath.
Brasgamu i ben Lôn Fêl ond
wrth ymyl Tan Lôn mi safon yn stond...
Be glywan nhw ond rhyw gynnwrf yn y llwyn,
roedd 'na gradur yn grwgnach yn y brogaij a'r brwyn.
Roedd 'na chwrnu yn y chwyn, rhyw dwrw yn y dail,
rhyw rochian a stwyrian a snwffian bob yn ail.
"Be gebyst?" medda Robat,
"Be gythral? " medda John,
"Be ddiawl," medda'r ddau "ond yr arth fawr drom!"
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
dyna i chi le oedd hefo'r Dansin Bêr.
Dyma droi ar eu sodla a'i gleuo'i fel y dydd
a gweiddi nerth eu lleisia - "ma'r arth yn rhydd!
O ma'r Dansin Bêr wedi dengid ar droed
felly deffrwch bobol Criciath a chodwch yn ddi-oed!"
Yn ol a'r ddau i Siop Mathaw ar frys
yn wyn fel y galchan ac yn laddar o chwys:
"Ol galwch Tomos Plusman a phawb yn dre
cyn ni gyd ga'l ein llarpio gin y Dansin Bêr!"
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
a phawb yn dre ofn y Dansin Bêr.
Sgrialodd Tomos Plusman i fyny Stryd Fawr
efo rhwyd a ffon a phastwn cawr,
a John a Robat Jos yn dynn ar ei sodla,
a Mathaw Siop Mathaw a'i deulu ar eu hola.
A dyma drigolion o draethau a dôl
yn gorymdeithio yn hy ar eu hôl;
a Tomos oedd yn arwain y gad drwy'r tarth
er mwyn achub y pentra rhag pawenna'r hen arth.
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
a phawb yn gweld sêr hefo'r Dansin Bêr.
Wrth i bawb nesau at lwyni Tan Lôn
lle llechai yr horwth yn slei'n ôl y sôn,
be glywan nhw ond rhyw gynnwrf yn y llwyn;
roedd 'na gradur yn grwgnach yn y brogaij a'r brwyn.
Roedd 'na chwyrnu yn y chwyn, rhyw dwrw yn y dail,
rhyw rochian a stwyrian a snwffian bob yn ail.
Be welodd Tomos Plusman wrth graffu drwy'r tarth
ond cynffon a chlustiau a charnau arth?!...
"Myn brain!" medda Tomos hefo naid a gwaedd,
"mond hwch Nysgain Bach ar ei ffordd at y baedd!"
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
bai ar gam gath y Dansin Bêr!
Dansin Bêr, Dansin Bêr,
bai ar gam gath y Dansin Bêr!
A dyna hanesyn ers amsar maith,
ond ddim mor hir a hynny chwaith.
Ac os clywch chi rochian a'r niwl yn drwch,
wel peidiwch cael eich twyllo gin fymryn o hwch!
English translation lyrics coming soon. - Hudba
This is one of the songs my dad liked. It always makes me cry when I hear it because it reminds me of his personality.
Beautiful, remember him well!!
Thanks DistantDreamer for all these songs with lyrics. I live in the USA and am trying to learn Cymraeg. These videos help a lot. Songs sound so magical when sung in Welsh! This is a really fun song! Thanks for all your hard work.
Sut mae hynny'n mynd? Haha
Yes! It's from North Wales! :P
This song always amuses me.
The Russian bear is dancing now. :) We are very respecting welsh people. Welcome to Russia! Our doors are always opened for a good people.
Diolch!
Arzh dañsus, arzh dañsus !
Bevet Gwyneth ; pegen brav eo !
No animals were hurt when producing this song and video.
Anyone know the chords for this?
Beautiful song! Is it from North Wales? I did my degree at SDUC in Lampeter, but there are words in the song that i don't recall!
I'd think, as she says 'hefo' and not 'gyda'.
This is a wonderful song!
I guess "hanas", "bora", "Mathaw" etc. are North Welsh pronunciation.
With such a denouement, the song should go down well at the Ballyjamesduff Pork Festival!