Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog

Sdílet
Vložit
  • čas přidán 5. 09. 2024
  • Recordiwyd 2 Ebrill 2020 ar gyfer gwasanaethau ar-lein Caersalem Caernarfon yn ystod argyfwng COVID-19.
    Menna Machreth a Rhys Llwyd
    Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog,
    gyda gwawr y bore dyrchafwn fawl i ti;
    sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog,
    Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni.
    Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; nef waredigion
    fwriant eu coronau yn wylaidd wrth dy droed;
    plygu mae seraffiaid mewn addoliad ffyddlon
    o flaen eu Crëwr sydd yr un erioed.
    Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; cwmwl a’th gylchyna,
    gweled dy ogoniant ni all anianol un;
    unig sanctaidd ydwyt, dwyfol bur Jehofa,
    perffaith mewn gallu, cariad wyt dy hun.
    Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog,
    datgan nef a daear eu mawl i’th enw di;
    sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog,
    Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni.
    REGINALD HEBER, 1783-1826 cyf. DYFED, 1850-1923
    (Caneuon Ffydd 42; Grym Mawl 2: 50)

Komentáře • 2

  • @HolyKhaaaaan
    @HolyKhaaaaan Před rokem

    Da iawn! Dw i'n dysgu Cymraeg a dw i'n mwynhau hymnau Cymraeg!

  • @catrinhamptongwaith5832
    @catrinhamptongwaith5832 Před 4 lety +2

    Mae'r fideos yma yn wych a wir yn galluogi fi addoli tra bod ni gyd dros bobman! Ydych chi'n hapus i ni ddangos nhw mewn cyrddau Zoom? Diolch guys x