Barddas

Sdílet
Vložit
  • čas přidán 9. 01. 2024
  • Mymryn Rhyddid
    Bydd Gruffudd Owen yn cael ei holi gan Llŷr Gwyn Lewis am ei gyfrol newydd 'Mymryn Rhyddid' sydd ag angst ieithyddol yn plethu drwy'r cyfan
    Bydd Gruffudd Owen yn cael ei holi gan Llŷr Gwyn Lewis am ei gyfrol newydd o gerddi ‘Mymryn Rhyddid’. Mae angst ieithyddol yn plethu trwy gerddi Gruff am deulu, bod yn dad, bod yn Gymro, ac yn ‘Porth’ awdl fuddugol Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
    Mae’r dynfa barhaus rhwng magwrfa’r bardd ym Mhwllheli a’i fywyd yng Nghaerdydd yn cael ei archwilio yn y farddoniaeth, a hefyd y ‘bwlch siâp duw’ sy’n waddol i’r fagwraeth honno.
    Mae Gruff yn fardd sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb ond yng nghanol ei sinigiaeth mae gwreichion o hiwmor a gobaith; y gobaith anodd hwnnw o wybod er bod pethau’n anodd ar brydiau bod rhaid parhau….‘a ninnau’n blino, awn yn ein blaenau.’.

Komentáře •